GWOBR ARALL O FEWN EI GYRRAEDD

Dafydd Davies-y crwt dewr o Bonthirwaun ger Aberteifi sydd yn edrych ‘mlaen yn arw at y cystadlu ffyrnig dros y penwythnos.

Ddydd Sul yma, bydd Dafydd Davies o bentre’ Ponthirwaun yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Cwad Prydeinig yr ACU yn Swanley, Caint.

Mae’r crwt 17 oed, sydd yn gweithio fel aprentis gyda’i dad – Ed Davies Racing, yn edrych ‘mlaen at y digwyddiad, ond hefyd yn bryderus. Gan Anwen Francis

Ar hyn o bryd, mae e’n sefyll yn y bumed safle yn Nosbarth Agored y Pencampwriaeth dros Brydain ac wedi ennill y Dosbarth Rookie gydag un rownd arall i fynd. Meddai ei fam Carol: ‘Mae e’n ofidus gan mai ond pedwar pwynt sydd rhyngddo ef a’r cystadleuydd arall sydd ar hyn o bryd yn y bedwaredd safle yn y gystadleuaeth o dan 21 oed.

Mae e’n gwybod y gallai unrhyw beth ddigwydd! Fel arfer, byddwn ni fel teulu yno i’w gefnogi.’ Ar hyn o bryd mae Dafydd, sydd eisoes wedi ennill dau Bencampwriaeth Cymru, Pencampwriaeth Cwad Prydeinig ORPA deir gwaith ac y llynedd wedi ennill teitl Clwb Ddyn Prydeinig yr ACU, yn edrych ‘mlaen at yr her ac yn gobeithio dychwelyd i Gymru yn fuddugol.

Llun Uchaf: Dafydd Davies yn cystadlu

Leave a Reply