CARWYN-YN ERBYN Y GWYNT

Carwyn – Yn Erbyn y Gwynt

Mae cofiant newydd yn cyflwyno deunydd newydd dadlennol am Carwyn James, un o gymeriadau mwyaf eiconig a phoblogaidd yn hanes diweddar Cymru.

Mae’r ddwy ochr i fywyd Carwyn James yn cael eu hamlygu yn y cofiant Carwyn – Yn Erbyn y Gwynt gan Alun Gibbard a gyhoeddir yr wythnos hon, y dyn cyhoeddus a’r dyn preifat. Yn ogystal â gwybodaeth newydd a lluniau na welwyd o’r blaen, yn sgil gwaith ymchwil manwl gan yr awdur ceir datgeliadau newydd am ei fywyd personol, yn cynnwys ei rywioldeb, ei broblem yfed a’i gyfnod yn yr Eidal. Mae hefyd yn manylu ar ei broblemau o ran ei berthynas â’r BBC ac Undeb Rygbi Cymru.

Meddai Alun Gibbard, ‘Gwnaeth Undeb Rygbi Cymru ei sarhau, a gwnaeth BBC Cymru yn yr un modd. Methodd y ddau sefydliad â defnyddio athrylith Carwyn mewn modd cyfrifol ac elwa ar ei brofiad a’i ddawn’.

Cawn gip ar fywyd Carwyn y myfyriwr yn Aberystwyth, yn ddyn ifanc yn y Llynges yn chwarae ei ran yn y Rhyfel Oer, cyn setlo yn ystod ei gyfnod fel athro. Digwydd hyn oll cyn y dyddiau pan ddaeth Carwyn James yn wyneb cyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobol. Y Carwyn cyhoeddus oedd Carwyn y saithdegau. Yn bedwar deg oed y daeth yn ddyn adnabyddus.

‘Roedd Carwyn James yn athrylith. Roedd hefyd yn enaid clwyfus.’ meddai awdur y gyfrol, Alun Gibbard.

 ‘Daeth sgyrsiau o fannau amrywiol y gellir eu crynhoi yn bedwar piler ym mywyd Carwyn – rygbi, llenyddiaeth, cenedlaetholdeb a darlledu.’ meddai Alun, ‘Awgrym o allu a mawredd y dyn yw bod ei gyfraniad yn ymestyn ar draws meysydd mor amrywiol a gwahanol i’w gilydd. Gyda phwy y gallwn ei gymharu heddi, tybed? Does dim ateb amlwg.’

Meddai’r Athro Gareth Wililams, ‘Dyma Gamp Lawn o gofiant sy’n torri tir newydd ym maes llenyddiaeth chwaraeon, a thu hwnt, yn y Gymraeg. Un o lyfrau’r flwyddyn heb amheuaeth.’

Ychwanegodd Jon Gower, ‘Dyma bortread byw a chynhwysfawr o Gymro dwfn wnaeth fyw dau fywyd mewn un, megis – yn wleidydd, athro, cyfathrebwr ac awdur yn ogystal â strategydd rygbi gorau’r byd. Yma mae Carwyn eto’n ysbrydoli.’

Mae’r cofiant yn ffrwyth ymchwil eang, gan gynnwys dros gant o sgyrsiau gyda theulu Carwyn a mawrion meysydd ei ddiddordebau, fel Colin Meads, yr Arglwydd Elystan Morgan a Huw Llywelyn Davies.

Mae Alun Gibbard yn awdur llawn amser o Lanelli, sydd wedi cyhoeddi bron i ddeg ar hugain o lyfrau ffeithiol ac un nofel. Mae’n cyfrannu’n wythnosol i’r cylchgrawn Golwg. Bu’n ddarlledwr am chwarter canrif cyn ei yrfa ysgrifennu, ac mae’n dal i gyfrannu i raglenni radio a theledu.

‘Roedd yn ddyn poblogaidd ond dim ond y fe, ar ei ben ei hun, oedd yno yn y diwedd yn Amsterdam . Dyma ymdrech i ddeall bywyd ‘… y dyn roedd pawb yn gwybod amdano er doedd neb yn ei adnabod’ yn ôl ei ffrind, yr awdur Alun Richards.’ eglurodd Alun.

Bydd dwy lansiad yn cael ei gynnal yng nghwmni teulu Carwyn James â’r awdur Alun Gibbard i ddathlu bywyd a chyfraniad Carwyn James.

Bydd y lansiad gyntaf yn cael ei gynnal yn Neuadd Berfformio Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin ar nos Fercher 23ain Tachwedd am 7 o’r gloch.

Bydd yr ail lansiad yng Nghlwb Rygbi Abersytwyth ar nos Iau 24ain o Dachwedd am 7 o’r gloch.

 

Mae Carwyn – Yn Erbyn y Gwynt gan Alun Gibbard (£14.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

 

 

 

Leave a Reply