HOCI LLANYBYDDER YN CODI SAFON!

Dechreuodd y gynghrair i dîm hŷn menywod Clwb Hoci Llanybydder eleni gyda gêm yn erbyn Clwb Hoci Caron ar yr astro yn Llambed. Roedd y tywydd yn ffafriol ac yn addas i’r gêm agored a chwaraewyd gan Lanybydder.

Roedd yn ddechrau arbennig i’r tymor gan ennill 0 – 11 gan ddangos cryfderau fel tîm. Y rheiny wnaeth sgorio oedd Sioned Williams (Ffenestri), Hedydd Wilson, Robyn Giles, Naiomi Davies, Claire Richards a chwech gôl i Rhian Thomas. Chwaraewraig y gêm oedd Caryl Rees a Naiomi Davies oedd y chwaraewraig dan 18 oed.

Ar ddydd Sul 9fed o Hydref roedd y tîm lawr yn Abertawe ar gyfer chwarae yn nhwrnamaint cystadleuaeth tarian De Cymru. Gwnaethant ennill bob un o’u tair gêm ac y maent nawr drwodd i’r rownd gyn-derfynnol yng Nghaerdydd yn y flwyddyn newydd.

Y penwythnos canlynol roeddynt i ffwrdd eto yn chwarae yn erbyn Castellnewydd Emlyn yn Aberteifi. Cafwyd gêm gystadleuol yn haul yr hydref ond roedd cryfder tîm Llanybydder gyda’i sgwad llawn yn dangos yn erbyn ond tîm o 11 o chwareawraig Emlyn.

Canlyniad hyderus wrth ennill 1 – 4 gyda dwy o’r goliau i Lanybydder yn dod o gorneli cosb gan Amanda Russell a Claire Richards a’r ddwy arall o chwarae agored gan Hedydd Wilson a Caryl Rees. Caryl hefyd derbyniodd Chwaraewraig y Gêm am yr ail gêm gynghrair o’r bron a Lleucu Ifans oedd Chwaraewraig dan 18 oed y tîm.

Ar y nos Sadwrn honno cafwyd noson lwyddiannus yn y Noson Rasus Llygod yng Nghlwb Rygbi Llambed gan godi dros £1200 tuag at y Clwb Hoci.

Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i gefnogi ac yn enwedig noddwyr y rasus sef Malcolm Davies Ltd, Ffenestri Derwendeg, Gwili Jones, Mair Wilson, BCC IT, 4RWAITH Cyf a Cam Cywir.

Edrychwn ymlaen nawr i weddill y tymor gan obeithio y bydd y tîm hŷn yn cadw eu safon a phob lwc i’r timau ieuenctid dan 16 oed a dan 13 oed.

Am fwy o wybodaeth dilynwch Clwb Hoci Llanybydder ar Facebook ac ar Twitter.

Hunlun y tîm ar ôl ennill yn erbyn Clwb Hoci Emlyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply