Sportsline

CLOD I CEFIN AR EI FEDAL AUR

ENDURO ISDE

Pan adawodd Cefin Evans a’i gyd-gystadleuwyr Castellnewydd Emlyn am dywydd poeth Sbaen, doedd ennill medal aur ddim wedi croesi eu meddwl. Roedd Cefin, y brodyr Aled ac Iwan Rees, Dylan Davies, John Stobbs a Phil Jenkins o Glwb y Dyfed Dirt Bike, yn cystadlu yn nigwyddiad Enduro ISDE Rhyngwladol yn Curcuito de Navarra, ac fe wnaethant ddychwelyd yn fuddugol …ein gohebydd Anwen Francis sydd wedi bod yn holi Cefin am ei lwyddiant.

Anwen: Pan wnaethoch chi bacio eich bagiau a mynd ar y daith, a oeddech chi’n meddwl y byddech chi’n dychwelyd yn bencampwyr y Cwpan Vintage?

Cefin: Dim o gwbl! Mae cystadlu enduro yn galed ar y corff ac yn real team effort – nid yn unig i ni, ond y bobl sydd rownd ni, y tim, a’r ymdrech o gyrraedd mas ‘na. Wedd pawb wedi gweithio mor galed a phawb yn helpu ei gilydd.

Anwen: Beth mae ennill y fedal aur a’r cwpan yn golygu i chi?

Cefin: Mae’n anrhydedd mawr i fi ac wrth gwrs i’r Clwb. Mae’r gystadleuaeth yn binacl y byd enduro ac yn binacl y flwyddyn ac mae ennill y Cwpan Vintage … wel, dyw e ddim wedi sinco mewn yn iawn to!

Anwen: Mae’n daith felly y byddwch chi’n cofio am hir –oes? Cefin: Mae wedi bod yn daith a hanner gydag Iwan ac Aled Midway yn gorffen y gystadleuaeth chwe diwrnod, Phil Jenkins yn cael damwain ar y diwrnod cyntaf ac yn torri pont yr ysgwydd, ond fe wnaeth pawb yn dda iawn.

Anwen: Pa mor anodd oedd y gystadleuaeth?

Cefin: Anodd yn gorfforol. Roedd y ddaear yn garregog a saith awr ar y beic bob dydd yn gofyn tipyn. Roedd y rheiny a oedd yn cystadlu chwe diwrnod yn teithio dros 200 milltir yn erbyn 700 o gystadleuwyr eraill. Roedd y digwyddiad rhyngwladol yn gweld cystadleuwyr o bedwar ban byd yn cystadlu ac yn ennill aur, arian ac efydd. Mae ar yr un lefel â’r Gemâu Olympaidd.

Anwen: Beth mae ennill yn ei olygu i’r Clwb?

Cefin: Mae’n gymaint o anrhydedd i’r Clwb. I Glwb mor fach yng ngorllewin Cymru i ennill cystadleuaeth mor fawr ac i dderbyn y Vintage – mae’n gymeradwyaeth anferthol, ac ers i ni ennill, mae’r diddordeb ar gyfer y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn Ffrainc yn enfawr.

Llun: John Stobbs,Dylan Davies a Cefin Evans.