Sportsline

BUDDUGOLIAETH I GAIS YR IAITH

Cais yr iaith yn ennill y gem!

Gwobrau Shwmae

Clwb Rygbi Crymych sydd wedi ei goroni yn enillwyr Gwobr Arbennig Gwobrau Shwmae gan Gyngor Sir Benfro eleni. Gan Anwen Francis.

Ar Ddiwrnod Shwmae yn Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd ganol Hydref, roedd hi’n noson o ddathlu i nifer o gymdeithasau, sefydliadau ac unigolion ac yn fodd o ddathlu’r ymdrech eithriadol a wneir bob dydd o’r flwyddyn i ddysgu’r Gymraeg, i hyrwyddo’r Gymraeg ac i gynnal Cymreictod o fewn cymunedau Sir Benfro. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gwobrau llynedd roedd pawb yn unfrydol y dylid cynnal digwyddiad o’r fath eleni eto. Gyda chymorth ariannol o Gronfa’r Loteri Fawr, Arian i Bawb a Chyngor Sir Penfro, roedd hi’n noson a hanner.

Yn ôl Gordon Eynon, ysgrifennydd Clwb Rygbi Crymych ers 23 o flynyddoedd, mae’n wych derbyn cydnabyddiaeth am y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y Clwb a’r ardal. Meddai:

“Mae ein pwyllgorau, cofnodion a’n holl sylwebaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae polisi dwyieithog yn y Clwb ac mae’n adlewyrchu’r ardal yr ydym yn byw ynddi ble mae’r Gymraeg yn gryf.”

Adrian Howells, Llyr Edwards a Dylan Edwards

Meddai’r trefnwyr Catrin Phillips a Llinos Penfold, Ymgynghorwyr y Gymraeg, Cyngor Sir Penfro: “Yn ystod yr haf roedd hi’n bleser cwrdd a ffilmio’r 33 o enwebiadau a gyrhaeddodd y rhestr fer mewn 11 o gategorïau.

Yn unigolion, grwpiau, ysgolion a chymdeithasau roedd gan bawb un peth yn gyffredin sef eu hymroddiad sicr at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, a’r hyn sy’n braf am y noson yw bod pobl o bob cwr o’r Sir yn cael eu henwebu a bod yna deimlad o undod rhwng Gogledd a De.”

Beirniaid Gwobrau Shwmae eleni oedd Gareth Ioan o gwmni Iaith, Elin Lenny sydd newydd gael ei hapwyntio yn Swyddog Hyrwyddo Diwrnod Shwmae a Lynwen Pierce, Canolfan Peniarth, Caerfyrddin. Lluniwyd y tlws fel arfer gan y gof Eifion

Llun: Adrian Howells, Llyr Edwards a Dylan Edwards, Cadeirydd Clwb Rygbi Crymych yn derbyn gwobrau Shwmae yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Theatr Myrddin, Hwlffordd.